Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

 

CA581

 

Teitl: Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011

 

Gweithdrefn: Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn atodol i Reoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 (“Rheoliadau Cymru a Lloegr”). Maent yn gwneud diwygiadau i nifer o offerynnau statudol Cymru at ddibenion trosi, o ran Cymru, Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t3). Maent hefyd, at yr un diben, yn dirymu un offeryn statudol Cymru.

 

Materion Technegol: Craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn ar hyn o bryd.

 

Rhinweddau: Craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.3 gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1.   Ni roddwyd y Rheoliadau hyn ar waith yng Nghymru o fewn y fframwaith amser a bennwyd gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig (“y Gyfarwyddwb ddiwygiedig”). Roedd yn ofynnol ar y DU (gan gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig) i drosi’r Gyfarwyddeb ddiwygiedig erbyn 12 Rhagfyr 2010. Ni wnaeth Llywodraeth y DU hynny erbyn y terfyn amser. Mae’r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb wedi ysgrifennu at y Llywydd i’w hysbysu am y rhesymau dros y diffyg cydymffurfio. Y prif reswm oedd bod angen aros tan i Reoliadau Cymru a Lloegr gael eu gwneud gan mai’r Rheoliadau hynny yn bennaf a oedd yn trosi’r Gyfarwyddeb ddiwygiedig. Mae’r Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011(“y Rheoliadau Cymreig”) yn gwneud nifer o ddiwygiadau canlyniadol i Offerynnau Statudol Cymru a wnaed yn flaenorol gan Weinidogion Cymru. Roedd angen am ddeddfwriaeth ar wahân gan fod rhaid i offeryn Cymru gael ei wneud yn ddwyieithog, ac nid oedd Llywodraeth y DU, am resymau gweinyddol yng nghyd-destun yr amserlen ar gyfer trosi, yn fodlon cynnwys diwygiadau o’r fath yn Rheoliadau Cymru a Lloegr.

 

(Rheol Sefydlog 21.3 (iv) – ei fod yn rhoi deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar waith yn amhriodol.)

 

2.   Gellir gwneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 gan ddefnyddio’r weithdrefn negyddol neu gadarnhaol. Y sawl sy’n gwneud y rheoliadau (Gweinidogion Cymru yn yr achos hwn) sydd â’r disgresiwn o ran dewis pa weithdrefn i’w defnyddio, ac nid oes unrhyw feini prawf wedi’u nodi mewn cyfraith ar gyfer hynny.

 

Gwnaed y rheoliadau penodol hyn gan dramgwyddo ar y rheol 21 niwrnod. Nodwyd y rhesymau dros y tramgwydd yn llythyr y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb ar y pryd at y Llywydd, dyddiedig 28 Mawrth 2011. Roedd ei llythyr hefyd yn cynnig yr eglurhad a ganlyn dros ddefnyddio’r weithdrefn negyddol yn yr achos hwn:

 

          “…the choice of procedure has depended on the nature of the provision being made rather than procedural considerations. The Wales Regulations do not substantially affect the provisions of an Act of Parliament or Assembly Measure, they do not amend any provision of an Act or Measure, and provide only for consequential updatings of subordinate legislation to reflect changes in Directive terminology and objectives. It was concluded, therefore, that it would not be appropriate to make the Wales Regulations under the affirmative procedure.”

 

Mae’r Pwyllgor yn gwbl fodlon â’r eglurhad hwn. Yn ogystal, mae’n credu ei fod hefyd yn darparu meini prawf pwysig a defnyddiol ar gyfer barnu a ddylid gwneud unrhyw ddeddfwriaeth yn y dyfodol a wneir o dan y pwerau hyn (neu ddeddfwriaeth lle mae gan Weinidogion ddisgresiwn tebyg o ran y weithdrefn y dylid ei defnyddio) drwy ddefnyddio’r weithdrefn gadarnhaol neu negyddol.

 

Mae’r Pwyllgor yn credu y byddai’n ddefnyddiol pe gallai’r memoranda esboniadol sy’n cyfeirio at ddefnydd yn y dyfodol o bwerau o’r fath nodi’n gryno, fel mater o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor, sut y defnyddiwyd y meini prawf a nodwyd yn llythyr y Gweinidog i farnu a ddylid defnyddio’r weithdrefn negyddol neu’r weithdrefn gadarnhaol.

 

(Rheol Sefydlog 21.3 (ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol.)

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol

 

Ebrill 2011

 

Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:

 

Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011

 

Mae'r Llywodraeth wedi esbonio, drwy lythyr y Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb at y Llywydd, pam yr oedd yn angenrheidiol i Reoliadau Cymru gynnwys darpariaethau sy'n cyfeirio at ddarpariaethau yn Rheoliadau Cymru a Lloegr ac yn dibynnu arnynt. O ganlyniad i hyn, nid oedd modd i Reoliadau Cymru gael eu gwneud yn gynt na Rheoliadau Cymru a Lloegr. O ran y Rheoliadau hynny, byddai'r Llywodraeth yn tynnu sylw at y ffaith bod y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff ddiwygiedig yn cyflwyno sawl darpariaeth newydd, yn ychwanegol at gydgrynhoi Cyfarwyddebau Gwastraff cynharach, ac yn rhoi pwys ar ymgysylltu â rhanddeiliaid. Yr oedd y Llywodraeth felly o'r farn ei bod yn angenrheidiol ymgysylltu'n effeithiol â rhanddeiliaid drwy ymgynghori'n helaeth â'r cyhoedd cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth angenrheidiol. Er hynny, yr oedd gan y materion a oedd yn codi o'r ymgynghoriadau effaith ar yr amserlen ar gyfer trosi'r Gyfarwyddeb. Mae'n flin gan y Llywodraeth am hyn, ond mae'n credu bod y ffaith ei bod wedi ymgynghori ac wedi ystyried y materion a gododd o'r ymgynghori wedi helpu i sicrhau bod y Gyfarwyddeb yn cael ei gweithredu'n fwy effeithiol yng Nghymru.